Russell George AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

25 Mai 2017

Annwyl Russell

 

Deisebau sy’n cael eu trafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd

 

Rwy’n awyddus ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl a sefydliadau sy’n cyflwyno deisebau i’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Yn yr ysbryd hwn, a dyhead i gefnogi cydweithio rhwng pwyllgorau’r Cynulliad, rwy’n ysgrifennu atoch i rannu gwybodaeth am y deisebau rydym yn eu trafod ar hyn o bryd sy’n ymwneud â phynciau o fewn cylch gwaith eich Pwyllgor.

 

Mae’r rhestr gyfredol i’w gweld yn atodiad i’r llythyr hwn.

 

Os yw unrhyw un o’r deisebau yn berthnasol i’ch rhaglen waith gyfredol, bydd o gymorth i ni yn ein trafodaethau pe allwch chi, neu’ch tîm clercio, roi gwybod i ni. Byddwn yn fwy na bodlon rhoi rhagor o wybodaeth i chi am unrhyw un o’r deisebau hyn.

 

Yn gywir

Mike Hedges AC

Cadeirydd


 

Atodiad

 

P-04-667

Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

​P-04-688

Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot

P-05-690

Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

P-05-701

Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

P-05-710

Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

P-05-714

Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd.

P-05-716

Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru

P-05-720

Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang opteg Ffibr yn y Pentref

P-05-721

Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

P-05-725

Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

P-05-731

Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi

P-05-737

Achubwch ein bws

P-05-738

Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys

P-05-740

Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr

P-05-746

Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru

P-05-748

Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

P-05-755

Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr